BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Disgwylir newidiadau cyntaf i gyfraith cwmnïau'r Deyrnas Unedig ar y 4ydd o Fawrth 2024

Business owner in a warehouse

Nod Tŷ'r Cwmnïau yw cyflwyno'r set gyntaf o fesurau o dan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol ar y 4ydd o Fawrth 2024.

Mae’r Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol yn rhoi’r pŵer i Dŷ’r Cwmnïau chwarae rhan fwy arwyddocaol wrth darfu ar droseddau economaidd a chefnogi twf economaidd. Cafodd y ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 26 Hydref 2023.

Beth fydd yn newid

Mae’r set gyntaf o newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol yn cynnwys:

  • mwy o bwerau i holi gwybodaeth a gofyn am dystiolaeth ategol
  • gwiriadau cryfach ar enwau cwmnïau
  • rheolau newydd ar gyfer cyfeiriadau swyddfa gofrestredig
  • gofyniad i bob cwmni ddarparu cyfeiriad e-bost cofrestredig
  • gofyniad i bob cwmni gadarnhau eu bod yn ffurfio’r cwmni at bwrpas cyfreithlon pan fyddant yn corffori, ac i gadarnhau y bydd ei weithgareddau arfaethedig yn y dyfodol yn gyfreithlon ar eu datganiad cadarnhau
  • y gallu i anodi’r gofrestr pan fydd gwybodaeth yn ymddangos yn ddryslyd neu’n gamarweiniol
  • cymryd camau i lanhau’r gofrestr, gan ddefnyddio paru data i nodi a dileu gwybodaeth anghywir
  • rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith

Bydd mesurau eraill o dan y ddeddf, fel gwiriad hunaniaeth, yn cael eu cyflwyno yn hwyrach.

Cael mwy o wybodaeth am newidiadau i gyfraith cwmnïau’r Deyrnas Unedig.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.