Fel cyflogwr sy’n cynnal cyflogres, mae angen i chi:
- adrodd i Gyllid a Thollau EM (CThEM) ar y flwyddyn dreth flaenorol (sy’n gorffen ar 5 Ebrill) a rhoi P60 i’ch gweithwyr
- paratoi ar gyfer y flwyddyn dreth newydd, sy’n dechrau ar 6 Ebrill
Mae CThEM wedi cyhoeddi gwybodaeth bwysig i gyflogwyr ar GOV.UK sy’n cynnwys:
- cymorth wrth orffen y flwyddyn dreth 2021 i 2022
- dechrau’r flwyddyn dreth newydd 2022 i 2023, trwy ddefnyddio codau treth o ffurflen P9X (2022) i’w defnyddio o 6 Ebrill 2022
- gwybodaeth am y cyfraddau, terfynau a newidiadau ar gyfer 2022 i 2023
- Bwletin Cyflogwyr Chwefror 2022 – mae’r rhifyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am gyflwyno’ch cyflwyniadau terfynol ar gyfer y flwyddyn