BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad am y Dreth Pecynnau Plastig

Cyflwynwyd y Dreth Pecynnau Plastig (PPT) newydd ar 1 Ebrill 2022. Os ydych chi’n gweithgynhyrchu neu'n mewnforio pecynnau plastig i'r DU, efallai y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Pecynnau Plastig, cyflwyno ffurflen y Dreth Pecynnau Plastig a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus.

Wrth i ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu chwarterol cyntaf ar gyfer y Dreth Pecynnau Plastig, mae CThEM eisiau rhannu rhai nodiadau atgoffa defnyddiol ar lenwi’ch  ffurflenni a gwneud eich taliadau ar gyfer y Dreth Pecynnau Plastig.

Gwybodaeth bwysig – ffurflenni a thaliadau cyntaf:

  • os ydych yn atebol i gofrestru neu os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Dreth Pecynnau Plastig, o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen, rhaid i chi gyflwyno'ch ffurflen y Dreth Pecynnau Plastig a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus erbyn 29 Gorffennaf 2022 fan bellaf
  • mae angen i'ch ffurflen y Dreth Pecynnau Plastig gynnwys pecynnau plastig a weithgynhyrchwyd neu a fewnforiwyd i'r DU, o'r adeg y daethoch yn atebol hyd at 30 Mehefin 2022
  • rhaid i chi gadw cyfrifon a chofnodion i gefnogi'r wybodaeth a ddarperir pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen chwarterol y Dreth Pecynnau Plastig 
  • rhaid i'ch cyfrifon ddangos sut rydych wedi cyfrifo'r ffigurau a gyflwynwch ar eich ffurflen y Dreth Pecynnau Plastig, a rhaid i'ch cofnodion ddangos y dystiolaeth i gefnogi'r ffigurau hyn
  • rhaid i chi gadw eich cyfrifon a'ch cofnodion am o leiaf 6 blynedd o ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu, a chofnodi pwysau mewn tunelli, cilogramau a gramau
  • bydd angen i chi dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus drwy eich cyfrif y Dreth Pecynnau Plastig ar-lein. Gallwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, BACS, CHAPS, cerdyn debyd/credyd corfforaethol neu Daliadau Cyflymach
  • i'ch atgoffa o'r camau hyn a'r holl ddyddiadau dychwelyd a thalu ar gyfer 2022-23 lawrlwythwch daflen y Dreth Pecynnau Plastig 

Mae arweiniad ar gyfer y Dreth Pecynnau Plastig ar gael ar Gov.UK collection page


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.