Os ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a gwledydd yn yr UE, mae angen i chi ddilyn rheolau tollau a threthi newydd.
Bydd y rheolau newydd yn effeithio ar eich busnes os ydych chi’n:
- prynu nwyddau gan werthwr yn yr UE ac yn dod â’r nwyddau i mewn i’r DU
- anfon nwyddau rydych chi wedi’u gwerthu i brynwr mewn gwlad yn yr UE.
- heb gyfnewid arian ond angen symud cyfarpar rydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes, rhwng y DU a’r UE
Gall CThEM eich helpu mewn sawl ffordd.
Gallwch:
- wneud cais i Gronfa Cymorth Brexit BBaChau
- gwylio fideos ar sianel YouTube CThEM i ymgyfarwyddo â’r prosesau tollau newydd a’r hyn sydd angen i chi ei wneud cyn masnachu nwyddau gyda’r UE
- defnyddio’r rhestr wirio i fasnachwyr i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r rheolau newydd sy’n effeithio arnoch chi
- defnyddio’r canllawiau sydd wedi'u diweddaru i ddeall y gofynion tollau a TAW newydd wrth symud nwyddau rhwng y DU a gwledydd yr UE
- cofrestru gyda’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr os yw busnes eich cleient yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a defnyddio eu cyfres o gynhyrchion addysgol – gan gynnwys modiwlau hyfforddi a gweminarau i gynorthwyo gyda Phrotocol Gogledd Iwerddon
- gofyn a chael atebion i gwestiynau penodol am brosesau CThEM ar gyfer mewnforio neu allforio, drwy ymweld â’n fforymau cwsmeriaid
- gwylio gweminarau a fideos gan adrannau eraill yn y llywodraeth i’ch cynorthwyo
- gallwch hefyd gofrestru i dderbyn diweddariadau e-bost wythnosol CThEM ar 'Newyddion a gwybodaeth am fewnforio ac allforio gyda'r UE', sy’n cynnwys cyngor ac awgrymiadau i fusnesau fel eich un chi, gan eich helpu i ymgyfarwyddo â’r rheolau newydd ar gyfer mewnforio ac allforio.
Am ragor o gyngor, ffoniwch linell gymorth Tollau a Masnachu Rhyngwladol ar 0300 322 9434, i gael rhagor o gymorth gyda mewnforio, allforio neu ryddhad tollau.
Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8am a 10pm, dydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8am a 4pm ar benwythnosau. Gallwch hefyd anfon eich cwestiynau neu gwesgwrsio.