BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad cyfyngiadau coronafeirws Cymru

Bydd cyfyngiadau lefel uwch yn dod i rym i reoli cyfraddau’r coronafeirws, sy'n cynyddu’n gyflym ledled Cymru.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd yn cyfateb i’r meini prawf yn y cynllun ‘goleuadau traffig’ newydd Cynllun Rheoli’r Coronafeirws sy’n golygu symud i lefel rhybudd 4.  

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i Gymru gyfan:

  • bydd pob busnes manwerthu nad yw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos, a phob canolfan hamdden a ffitrwydd, yn cau ddiwedd y diwrnod masnachu ar Noswyl Nadolig
  • bydd pob safle lletygarwch yn cau o 6pm Ddydd Nadolig

Bydd cyfyngiadau llymach ar gymysgu rhwng aelwydydd, aros gartref, llety gwyliau a theithio yn dod i rym o 28 Rhagfyr 2020, ar ôl cyfnod pum niwrnod y Nadolig.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.