BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad gan CThEM: Diweddariad ar brotocol Gogledd Iwerddon

Ar 13 Mehefin 2022, cyflwynodd yr Ysgrifennydd Tramor Fil Protocol Gogledd Iwerddon i'r Senedd. 

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi dogfen sy'n crynhoi'r materion sy'n codi o Brotocol Gogledd Iwerddon fel y mae, a sut y mae'r Bil yn ceisio eu datrys. 

Am y tro, ac wrth i'r ddeddfwriaeth newydd fynd drwy'r Senedd, bydd y trefniadau presennol yn parhau; gyda busnesau'n gallu parhau i symud nwyddau i mewn ac allan o Ogledd Iwerddon yn yr un ffordd ag y maent yn ei wneud yn awr.

I gael mwy o wybodaeth ewch i Northern Ireland Protocol: the UK’s solution - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.