Darllenwch y newyddion diweddaraf gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data 2024
Archebwch le am ddim ar gyfer Cynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data (DPPC) flynyddol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a fydd yn cael ei chynnal ar-lein ddydd Mawrth 8 Hydref 2024. P’un ai dyma’r tro cyntaf i chi neu os ydych chi’n mynychu’r DPPC yn rheolaidd, bydd gan DPPC2024 rywbeth ar eich cyfer waeth beth fo lefel eich profiad, eich sector neu eich arbenigedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Register | DPPC 2024 (orcula.co.uk)
Creu eich hysbysiad preifatrwydd eich hun
Mae cynhyrchydd hysbysiadau preifatrwydd newydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ei gwneud hi’n llawer haws i greu hysbysiad preifatrwydd pwrpasol.
Mae eich hysbysiad preifatrwydd yn dangos i'ch cwsmeriaid a’ch cyflenwyr, neu eich staff a’ch gwirfoddolwyr, fod eu gwybodaeth yn bwysig i chi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Create your own privacy notice | ICO
Canllawiau newydd i wella tryloywder ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Os ydych chi’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, mae’r canllawiau newydd yn cynnig enghreifftiau ac astudiaethau achos er mwyn dangos sut y gallwch chi fod yn agored gyda phobl ynglŷn â sut mae eu gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: ICO publishes guidance to improve transparency in health and social care | ICO