Ym mis Tachwedd 2020, lansiodd Llywodraeth Cymru y cynllun taliad o £500 i gefnogi pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu.
Mae'r cynllun wedi'i ddiweddaru i gynnwys y rheini y gofynnwyd iddynt hunanynysu na allant weithio o gartref, ac sydd:
- yn derbyn Tâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd neu lai; a/neu
- yn derbyn incwm personol NET o £500 neu lai.
Bydd y cynllun yn cael ei ymestyn tan fis Mehefin 2021, gyda’r opsiwn i’w ymestyn ymhellach tan fis Hydref 2021 yn dilyn adolygiad pellach.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.