Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi ystod o ganllawiau a chyngor, i helpu i wneud eich gweithle yn lle mwy diogel.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- Cymorth cyntaf – Gofynion cymorth cyntaf mewn lleoliadau nad ydyn nhw’n lleoliadau gofal iechyd, ynghyd â gwasanaethau cyflenwi a chymwysterau cymorth cyntaf, yn ystod y pandemig.
- Gyrwyr – Mae’n rhaid i’r sawl sydd â dyletswydd mewn safleoedd lle ceir llwytho a/neu ddadlwytho gymryd camau cyfrifol i ddiogelu iechyd a diogelwch gyrwyr sy’n dosbarthu a chasglu.
- Hylif diheintio dwylo a diheintyddion arwynebau – Canllawiau ar gyfer cyflogwyr sy’n darparu hylif diheintio dwylo ar gyfer eu gweithwyr ac eraill i’w defnyddio yn eu gweithleoedd.
Am y wybodaeth a’r cyngor diweddaraf, ewch i dudalennau gwe coronafeirws yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.