BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariadau e-bost, fideos a gweminarau CThEF ar gyfer TAW

person using a calculator

Mae gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) adnoddau amrywiol i helpu busnesau ac unigolion i ddeall a rheoli TAW (Treth ar Werth), gan sicrhau eu bod yn wybodus, yn cydymffurfio, ac yn effeithlon wrth reoli eu rhwymedigaethau TAW.

Yn rhan o’r cynnwys mae:

  • Tanysgrifio i dderbyn diweddariadau e-bost
  • Cofrestru ac ymuno â gweminarau
  • Offeryn Amcangyfrif TAW
  • Cynlluniau Cyfrifo TAW
  • TAW – defnyddio'r Cynllun Cyfradd Unffurf
  • TAW – y pethau sylfaenol a'r ffurflen TAW
  • Trosolwg o’r drefn newydd o ran cyflwyno ffurflen TAW yn hwyr, cosbau talu hwyr a newidiadau llog
  • Defnyddio'r ffurflen VAT 484 i roi gwybod am newidiadau
  • Sut i gofrestru ar gyfer TAW gan ddefnyddio'r ffurflen VAT1
  • Sut i gymhwyso'r tâl gwrthdro TAW am wasanaethau adeiladu
  • Cyfrifo TAW wrth werthu ceir ar gynllun cyllid
  • Sut i ychwanegu treth at eich cyfrif treth busnes
  • Twyll cwmnïau ambarél bach
  • Fforymau cymunedol CThEF

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: HMRC email updates, videos and webinars for VAT - GOV.UK (www.gov.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.