BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariadau gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Peidiwch â chael eich dal allan – canllawiau SARs newydd i gyflogwyr 

Mae’r ICO wedi cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr ar sut i ymateb i gais am fynediad at ddata gan y testun (SAR) gan gyflogai presennol neu gyn-gyflogai. Mae’r hawl mynediad yn caniatáu i rywun ofyn am gopi o’i wybodaeth bersonol gan sefydliadau, fel manylion ei gofnodion presenoldeb a salwch, datblygiad personol neu gofnodion Adnoddau Dynol. Y llynedd, gwnaed dros 15,000 o gwynion i’r ICO am SARs. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y rheolau.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol SARs Q&A for employers | ICO


Fideos newydd i helpu Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) i wneud y mwyaf o’u marchnata

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi lansio cyfres o adnoddau fideo byr i helpu busnesau bach ac unig fasnachwyr i sicrhau bod eu harferion marchnata’n cydymffurfio â’r gyfraith. Mae’r gyfres o dri fideo dwy funud o hyd yn ymdrin â hanfodion marchnata uniongyrchol, gan gynnig cyngor ac awgrymiadau cyflym a hawdd. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol E-learning | ICO 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.