BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Ail-lenwi'r Byd 2024

Refillable water bottle

Ymgyrch fyd-eang i atal llygredd plastig a helpu pobl i fyw â llai o wastraff yw Diwrnod Ail-lenwi'r Byd. Mae’r ymgyrch yn ddiwrnod o weithredu sy'n uno cymuned fyd-eang ar 16 Mehefin bob blwyddyn, ac mae wedi'i chynllunio i greu gweledigaeth amgen ar gyfer y dyfodol a chyflymu'r broses i drawsnewid o ddefnyddio plastigion untro i systemau ail-lenwi ac ailddefnyddio. 

O baned o goffi wrth i chi deithio i’r gwaith, i ddŵr yfed wrth fynd ynghylch eich pethau, neu hyd yn oed llai o becynnu wrth siopa, mae cynllun ail-lenwi Refill yn ei gwneud hi’n haws i chi ddefnyddio llai o blastig.  Mae cynllun ail-lenwi Refill yn gweithio trwy gysylltu pobl â lleoliadau lle maen nhw’n gallu bwyta, yfed a siopa â llai o wastraff. 

Gall unrhyw un lawrlwytho'r ap am ddim er mwyn dod o hyd i orsafoedd ail-lenwi lleol cyfagos.  Dewch o hyd i’ch cynllun ail-lenwi agosaf: Refill Schemes | Refill | find a scheme and Join the Refill Revolution

Mae busnesau sy'n cymryd rhan yn cofrestru ar yr ap ac yn rhoi sticer yn eu ffenestr, gan roi gwybod i bobl sy’n mynd heibio fod croeso iddyn nhw ddod i mewn ac ail-lenwi.  Rhowch eich tap ar y map! Cofrestrwch eich busnes i fod yn orsaf ail-lenwi: Add a Refill Station | Refill | Join the Refill movement

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Refill Cymru - Refill


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.