BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Ailgylchu Byd-eang 2023

Cynhelir y Diwrnod Ailgylchu Byd-eang ddydd Gwener 18 Mawrth 2023.

Mae'n cydnabod y bobl, y lleoedd a'r gweithgareddau sy'n dangos sut mae'r Seithfed Adnodd ac ailgylchu yn cyfrannu at blaned amgylcheddol sefydlog a dyfodol gwyrddach i bawb.

Gallwch gymryd rhan yn y diwrnod arbennig hwn trwy drefnu'ch digwyddiadau eich hun, gan helpu i hyrwyddo’r Diwrnod Ailgylchu Byd-eang trwy rannu gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol About - Global Recycling Day

Beth am sefydlu cynllun ailgylchu yn y gweithle?

Fel arfer, mae o leiaf 50% i 70% o'r gwastraff swyddfa sy'n cael ei daflu i'r bin fel gwastraff cyffredinol naill ai'n rhywbeth y gellir ei osgoi, ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu - ac mae cyflwyno cynllun ailgylchu yn eich gweithle yn haws nag mae'n swnio!

I gael gwybod sut, ewch i Sefydlu cynllun ailgylchu yn y gweithle | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.