Mae’r Diwrnod Amser i Siarad nesaf yn cael ei gynnal ddydd Iau 6 Chwefror 2025. Yng Nghymru, mae Diwrnod Amser i Siarad yn cael ei redeg gan Amser i Newid Cymru, Adferiad a Mind Cymru, ac mewn partneriaeth â’r Co-op.
Ariennir rhaglen Amser i Newid Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Diwrnod Amser i Siarad yw sgwrs iechyd meddwl fwyaf y genedl. Y Diwrnod Amser i Siarad hwn, rydyn ni’n gofyn i bobl ddod yn gyfforddus yn siarad am iechyd meddwl. Tecstiwch ffrind, siaradwch â chydweithiwr dros baned, ewch am dro gyda annwylyd, rhannwch rywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio ein hashnod #AmserISiarad – does dim ffordd gywir nac anghywir i gysylltu â rhywun ar Ddiwrnod Amser i Siarad.
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi ddechrau sgwrs. Gallech chi gael sgwrs ochr yn ochr â gweithgaredd, rhannu paned gyda rhywun annwyl neu hyd yn oed anfon neges destun at ffrind i weld sut maen nhw. Er nad oes ffordd gywir neu anghywir o siarad am iechyd meddwl, gall ein hawgrymiadau siarad eich helpu i gael y sgyrsiau holl bwysig hynny.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Diwrnod Amser i Siarad 2025