Paratowch ar gyfer Diwrnod Bwyd y Byd eleni sy'n digwydd ar 16 Hydref 2023.
Mae dŵr yn fywyd, mae dŵr yn fwyd. Mae dŵr yn hanfodol i fywyd ar y Ddaear. Mae'n gorchuddio mwyafrif o arwynebedd y Ddaear, yn ffurfio dros 50% o'n cyrff, yn cynhyrchu ein bwyd, ac yn cefnogi bywoliaeth.
Ond nid yw'r adnodd gwerthfawr hwn yn anfeidrol, ac mae angen i ni roi'r gorau i'w gymryd yn ganiataol. Mae beth rydyn ni'n ei fwyta a sut mae'r bwyd hwnnw'n cael ei gynhyrchu yn effeithio ar ddŵr.
Mae angen i lywodraethau, y sector preifat, busnesau, ffermwyr, y byd academaidd, cymdeithas sifil ac unigolion weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â heriau dŵr.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Take action | World Food Day | Food and Agriculture Organization of the United Nations (fao.org)