Bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn i hyrwyddo'r defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol, yn arbennig ymhlith plant a phobl ifanc. Bydd tua 140 o wledydd ledled y byd yn ei ddathlu.
Bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022 yn cael ei gynnal ar 8 Chwefror a’r thema yw ‘Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein’, yn awyddus i helpu plant, pobl ifanc a rhieni i ddeall yn well bwysigrwydd ‘chwarae dy ran’ mewn hybu defnydd cadarnhaol o fannau cydweithio ar-lein.
Lledaenwch y neges
Gallwch gymryd rhan yn Niwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel drwy:
- Fynd i www.saferinternetday.org.uk
- Dilyn @UK_SIC ar Twitter
- Ymuno â’r sgwrs genedlaethol ddefnyddio drwy #SaferInternetDay, #PlayYourPart, #SIDCymru a #DiwrnodDefnyddiorRhyngrwydynFwyDiogel
- Hoffi UK Safer Internet Centre ar Facebook
- Dilyn @DC_Wales ar Twitter, a Cymunedau Digidol Cymru ar Facebook
- Dilyn @UK_SIC ar Instagram