Bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023 yn cael ei gynnal ar 7 Chwefror 2023, gyda dathliadau a dysgu yn seiliedig ar y thema 'Eisiau siarad amdano? Gwneud lle i sgyrsiau am fywyd ar-lein'.
Mae'r dathliad, sy’n cael ei gydlynu yn y DU gan Ganolfan Rhyngrwyd Fwy Diogel y DU, yn cynnwys miloedd o sefydliadau yn cymryd rhan i hyrwyddo defnydd diogel, cyfrifol a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol i blant a phobl ifanc.
Yn y DU, rydym yn dathlu drwy roi lleisiau plant a phobl ifanc wrth galon y dydd ac yn eu hannog i ffurfio'r cymorth diogelwch ar-lein y maent yn ei gael.
Dyna pam rydyn ni'n gofyn i rieni, gofalwyr, athrawon, y llywodraeth, gwneuthurwyr polisïau, a'r diwydiant diogelwch ar-lein ehangach i dreulio amser yn gwrando ar blant a phobl ifanc a gwneud newid cadarnhaol gyda'i gilydd.
Gyda'ch help chi, gall Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023 fod yn sbardun i sgyrsiau sy'n ffurfio sut rydyn ni'n siarad am faterion ar-lein ac yn ymateb iddynt, nid dim ond am un diwrnod, ond drwy gydol y flwyddyn gyfan.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Safer Internet Day 2023 - UK Safer Internet Centre