Cynhelir Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024 ar 6 Chwefror 2024, gyda dathliadau a dysgu sy’n seiliedig ar y thema ‘Ysbrydoli newid? Gwneud gwahaniaeth, rheoli dylanwad a llywio newid ar-lein’.
Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yw’r dathliad mwyaf yn y Deyrnas Unedig (DU) sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch ar-lein. Mae wedi’i greu mewn ymgynghoriad â phobl ifanc ledled y DU, a ffocws Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel eleni yw newid ar-lein, gan gynnwys:
- safbwyntiau pobl ifanc ar dechnoleg newydd a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg
- defnyddio’r rhyngrwyd i wneud newidiadau er gwell
- y newidiadau y mae pobl ifanc eisiau eu gweld ar-lein
- y pethau sy’n gallu dylanwadu a newid y ffordd y mae pobl ifanc yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu ar-lein ac all-lein.
Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU sy’n cydgysylltu’r dathliad yn y DU, ac mae miloedd o sefydliadau’n cymryd rhan er mwyn hyrwyddo defnyddio technoleg ddigidol yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn gadarnhaol ymhlith plant a phobl ifanc.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol:
- Safer Internet Day 2024 - UK Safer Internet Centre
- Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024: Disgyblion yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth ar-lein | LLYW.CYMRU
I gael y newyddion diweddaraf, canllawiau, adnoddau a hyfforddiant i’ch helpu chi, eich ysgol a’ch teulu i gadw’n ddiogel ac yn wybodus ar-lein, dewiswch y ddolen ganlynol: Cadw’n ddiogel ar-lein - Hwb (llyw.cymru)