Mae Diwrnod Diogelu Data yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelu data ac yn ceisio hyrwyddo arferion preifatrwydd data da.
Ar 26 Ebrill 2006 penderfynodd Cyngor Ewrop lansio Diwrnod Diogelu Data, a fyddai’n cael ei ddathlu bob blwyddyn ar 28 Ionawr, y dyddiad pan agorwyd confensiwn diogelu data Cyngor Ewrop, a elwir yn "Gonfensiwn 108", i'w lofnodi. Mae Diwrnod Diogelu Data bellach yn cael ei ddathlu'n fyd-eang ac fe'i gelwir yn Ddiwrnod Preifatrwydd y tu allan i Ewrop.
Ar y dyddiad hwn, mae llywodraethau, seneddau, cyrff diogelu data cenedlaethol a chyfranogwyr eraill yn cynnal gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth am yr hawliau i ddiogelu data personol a phreifatrwydd. Gall y rhain gynnwys ymgyrchoedd sy'n targedu'r cyhoedd, prosiectau addysgol ar gyfer athrawon a myfyrwyr, a drysau agored mewn asiantaethau diogelu data a chynadleddau.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: 28 January - Data protection day - Portal
I gael gwybod am Ddiogelu Data ar gyfer eich busnes, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Advice for small organisations | ICO Yma fe gewch gyngor ac arweiniad ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint, busnesau newydd, unig fasnachwyr, elusennau bach, grwpiau a chlybiau. Defnyddiwch eu hoffer hunanwasanaeth hawdd i gael atebion i'ch cwestiynau a chreu cyngor wedi'i deilwra neu darllenwch eu canllawiau a'u cynghorion cryno defnyddiol.