Caiff Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd ei ddathlu bob blwyddyn ar 26 Ebrill.
Y thema eleni yw ‘Eiddo Deallusol a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy: Adeiladu ein dyfodol cyffredin gydag arloesedd a chreadigedd’, ac mae’n gyfle i archwilio sut mae eiddo deallusol yn annog ac yn gallu ymhelaethu effaith yr atebion arloesol a chreadigol sydd eu hangen arnom i adeiladu ein dyfodol cyffredin.
Er mwyn adeiladu ein dyfodol cyffredin a chyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (United Nation’s SDGs), mae angen i ni ailfeddwl sut rydym yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.
Darganfyddwch sut mae eiddo deallusol yn meithrin yr arloesedd a’r creadigedd sydd eu hangen arnom i yrru cynnydd dynol, a chysylltu eiddo deallusol â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy i wneud y byd yn lle gwell: World Intellectual Property Day April 26, 2024
Dysgwch fwy am sut mae hawliau eiddo deallusol yn helpu i gyflymu’r arloesedd a’r creadigedd sydd eu hangen arnom i ddatblygu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Dewch o hyd i gyrsiau hyfforddiant, offer a rhwydweithiau sy’n ymwneud ag eiddo deallusol i gefnogi eich taith ym maes eiddo deallusol: Resources and Tools