Cynhelir Diwrnod Gwisgo Coch blynyddol Show Racism the Red Card ar 21 Hydref 2022.
Mae’r Diwrnod Gwisgo Coch yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu sy'n annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch a rhoi arian i helpu hwyluso cyflwyno addysg gwrth-hiliaeth i bobl ifanc ac oedolion.
Mae pob ceiniog sy'n cael ei chodi yn ystod y Diwrnod Gwisgo Coch yn galluogi'r ymgyrch i weithio gyda mwy o bobl ifanc ac oedolion ledled y DU i herio hiliaeth mewn cymdeithas.
I gofrestru a derbyn pecyn codi arian, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cofrestru – Diwrnod Gwisgo Coch (office.com)
Dangoswch eich cefnogaeth I'r Diwrnod Gwisgo Coch trwy lawrlwytho graffeg WRD22. Mae cardiau cefnogwyr WRD22 ynghyd â delweddau a phapurau wal bwrdd gwaith/ffôn ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ar gael.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.theredcard.org/wear-red-day