BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Hawliau Dynol – 10 Rhagfyr 2024

younger helping an older person

Cyhoeddwyd y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (UDHR) gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym Mharis ar 10 Rhagfyr 1948 ac mae'n nodi, am y tro cyntaf, hawliau dynol sylfaenol sydd i'w gwarchod yn gyffredinol.

Mae'r ddogfen nodedig hon yn ymgorffori'r hawliau diymwad y mae gan bawb hawl iddynt fel bod dynol - waeth beth fo'u hil, lliw, crefydd, rhywedd, iaith, barn wleidyddol neu arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall.

Gall hawliau dynol rymuso unigolion a chymunedau er mwyn creu yfory gwell.

Mae thema’r flwyddyn hon, Our Rights, Our Future, Right Now – yn alwad i gydnabod pwysigrwydd a pherthnasedd hawliau dynol yn ein bywydau bob dydd. Mae gennym gyfle i newid canfyddiadau drwy siarad yn erbyn iaith casineb, gan gywiro a mynd i’r afael â chamwybodaeth. Dyma'r amser i annog gweithredu er mwyn adfywio mudiad byd-eang dros hawliau dynol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Diwrnod Hawliau Dynol | Y Cenhedloedd Unedig

Dysgwch am waith Llywodraeth Cymru i gefnogi a gwella hawliau dynol: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.