Ar 7 Ebrill 2023, Diwrnod Iechyd y Byd, bydd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed. Y thema eleni yw 'Iechyd i Bawb'.
Ym 1948, daeth gwledydd y byd at ei gilydd a sefydlu WHO i hybu iechyd, cadw'r byd yn ddiogel a gwasanaethu pobl agored i niwed - felly gall pawb, ym mhob man, gyrraedd y lefel uchaf o iechyd a lles.
Mae blwyddyn pen-blwydd WHO yn 75 oed yn gyfle i edrych yn ôl ar lwyddiannau iechyd cyhoeddus sydd wedi gwella ansawdd bywyd yn ystod y saith degawd diwethaf. Mae'n gyfle hefyd i ysgogi gweithredu i fynd i'r afael â heriau iechyd heddiw – ac yfory.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol 75 years of improving public health (who.int)
Gofynnwch i'ch staff bostio am y diwrnod ar eu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Gallent bostio lluniau neu straeon ohonynt yn cymryd rhan mewn gweithgareddau iach, gan ddefnyddio #IechydIBawb a #WHO75.
Mae bod yn fusnes cyfrifol yn ymwneud â bod o fudd i'r bobl a'r mannau o'ch cwmpas, gan gael effaith gadarnhaol hefyd ar eich busnes. Mae'n ymwneud â'r ffordd rydych chi'n gofalu am eich staff yn eich gweithle, eich perthynas â'ch cyflenwyr yn y farchnad, eich ymglymiad â'r gymuned a'ch effaith ar yr amgylchedd. Fe welwch wybodaeth am sut y gallwch ychwanegu gwerth yn yr holl feysydd allweddol hyn trwy glicio ar y ddolen ganlynol Busnes Cyfrifol | Busnes Cymru (llyw.cymru)