Mae dyddiau ac wythnosau rhyngwladol yn achlysuron i addysgu'r cyhoedd am faterion sy'n peri pryder, i ysgogi ewyllys ac adnoddau gwleidyddol i fynd i'r afael â phroblemau byd-eang, ac i ddathlu ac atgyfnerthu cyflawniadau'r ddynoliaeth. Mae bodolaeth diwrnodau rhyngwladol yn rhagddyddio sefydlu'r Cenhedloedd Unedig, ond mae'r Cenhedloedd Unedig wedi eu hymgorffori fel arf eirioli pwerus.
Caiff International Mother Language Day ei gynnal ar 21 Chwefror 2023 ac mae’n cydnabod y gall ieithoedd ac amlieithrwydd ddatblygu cynhwysiant.
Mae'r Gymraeg yn un o drysorau Cymru. Mae'n rhan o beth sy'n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl. Ein huchelgais ni fel Llywodraeth Cymru yw gweld nifer y bobl sy'n gallu mwynhau siarad a defnyddio'r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Y Gymraeg | Pwnc | LLYW.CYMRU
Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn eich busnes wneud gwahaniaeth mawr. Helo Blod yw eich gwasanaeth cyngor a chyfieithu Cymraeg cyflym a chyfeillgar. Ac mae am ddim. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru)