Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi dynodi 27 Mehefin yn ‘Ddiwrnod Microfusnesau a Busnesau Bach a Chanolig’.
Mae Microfusnesau a BBaChau yn cyfrif am 90% o fusnesau ac yn gyfrifol am 70% o gyflogaeth a 50% o gynnyrch domestig gros ledled y byd. Maen nhw’n asgwrn cefn i gymdeithasau ym mhobman ac yn cyfrannu at economïau lleol a chenedlaethol ac at gynnal bywoliaeth, yn enwedig ymhlith y tlawd sy'n gweithio, menywod, pobl ifanc, a grwpiau mewn sefyllfaoedd bregus.
Os ydynt yn cael cefnogaeth ddigonol, mae gan BBaChau a microfusnesau’r potensial i drawsnewid economïau, creu swyddi, a hyrwyddo twf economaidd teg. Nod Diwrnod Microfusnesau a Busnesau Bach a Chanolig yw tynnu sylw at eu rôl ganolog ac archwilio cyfleoedd i'w datblygu ymhellach.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Micro-, Small and Medium-sized Enterprises Day | United Nations
Mae Busnes Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth diduedd wedi’i ariannu’n llawn i bobl yng Nghymru sy’n dechrau, yn rhedeg ac yn cynyddu maint eu busnes. Cofrestrwch heddiw i gael cefnogaeth: Cofrestru BBaCh | Busnes Cymru (llyw.cymru)