BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr 2024

Some of the staff at Melin Tregwynt

Dathliad blynyddol o Berchnogaeth Gweithwyr (PG) yw Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr, ac mae’n rhoi’r cyfle i filoedd o berchnogion sy’n weithwyr, busnesau PG a chefnogwyr PG ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth ac addysgu am fuddion perchnogaeth gan weithwyr. Bydd yn cael ei gynnal ar 21 Mehefin 2024.   

Os ydych chi eisiau gwerthu'ch busnes neu'n bwriadu datblygu eich busnes a gwobrwyo a chadw staff, mae PG yn opsiwn arloesol sydd â buddion masnachol profedig.  Trwy drosglwyddo perchnogaeth i'ch gweithwyr, gallwch sicrhau’r gwerth mwyaf posibl ar gyfer eich busnes a gwella perfformiad y busnes, gan sicrhau ar yr un pryd bod eich gwaddol yn parhau am amser maith i'r dyfodol.

Gydag ymchwil yn dangos bod busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn perfformio'n well a chanddynt weithwyr sy’n ymgysylltu’n well ac yn fwy ymroddgar, mae PG hefyd yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg entrepreneuriaid sy'n sefydlu busnesau newydd, er mwyn helpu i ddenu a gwobrwyo gweithwyr dawnus a sbarduno twf busnes.

Cliciwch ar y ddoleni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: 

Nid eich model busnes arferol!

Mae Llywodraeth Cymru yn dathlu dyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru - gan gynnwys melin wlân uchel ei pharch - bron i ddwy flynedd yn gynt na'r disgwyl.

Heddiw, ar Ddiwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr (dydd Gwener 21 Mehefin), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi cyrraedd ei nod o gael 74 o fusnesau yng Nghymru o dan reolaeth gweithwyr. Roedd y cyfanswm newydd hwn eisoes wedi tyfu o 37 yn 2021 i 63 y llynedd.

Gosodwyd targed 2026 gan y Gweinidog Economi blaenorol, Vaughan Gething yn 2022, law yn llaw ag ymrwymiad i gefnogi pryniant gan weithwyr a helpu i sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn parhau i fod mewn dwylo Cymreig. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Nid eich model busnes arferol! | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.