BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod rhwydweithio di-dâl: Manteisio ar Horizon Europe a chyfleoedd ariannu eraill

Wedi’i drefnu gan Wasanaethau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe, a chyda chefnogaeth SCoRE Cymru, bydd y sesiwn rwydweithio hon, a gynhelir ar 14 Medi 2022, yn cynnig cyfle i gynrychiolwyr diwydiant a’r byd academaidd yng Nghymru rwydweithio â phartneriaid rhyngwladol.

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar gyfleoedd ar gyfer cyllid gan ffynonellau yn y DU a’r UE – yn benodol Clwstwr 6 Horizon Ewrop (Bwyd, y Fioeconomi, Adnoddau Naturiol, Amaethyddiaeth, a’r Amgylchedd) a galwadau cysylltiedig ym maes iechyd planhigion, seilwaith cydnerth a phlaladdwyr risg isel.

Mae’r sesiwn yn dilyn cynhadledd bwysig ar ddulliau rheoli plâu integredig a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe, gan fanteisio ar y cysylltiadau a’r rhwydweithiau cychwynnol a sefydlwyd rhwng cynrychiolwyr o Gymru ac Ewrop a fynychodd y gynhadledd ar ddulliau rheoli plâu integredig.

I gofrestru ar gyfer y diwrnod rhwydweithio ewch i Accessing Horizon Europe and other Funding Opportunities Tickets, Wed 14 Sep 2022 at 09:00 | Eventbrite  
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.