Mae 25 Tachwedd 2021 yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod a’r Diwrnod Rhuban Gwyn (WRD), a’r 16 diwrnod o ddiddymu trais yn erbyn menywod sy’n dilyn.
Mae WRD yn gofyn i bobl yn eu cymunedau, sefydliadau a gweithleoedd, i ddod at ei gilydd a dweud ‘na’ wrth drais yn erbyn menywod. #AllManCan yw’r brif neges eleni ac mae WRD am weld cynifer o ddynion â phosibl yn meddwl yn ofalus a gwneud yr Addewid Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu gadw’n ddistaw am drais gan ddynion yn erbyn menywod.
Mae mwy o wybodaeth yma Diwrnod Rhuban Gwyn 2021 — White Ribbon UK.
Fel cyflogwr, gallwch wneud cyfraniad pwysig at roi sicrwydd i staff sy’n dioddef trais neu gam-drin domestig bod cymorth ar gael, gan gynnwys cymorth ar-lein, llinellau ffôn cymorth, llochesau a’r heddlu.
Gall ‘Byw Heb Ofn’ Llywodraeth Cymru gynnig cymorth a chyngor i:
- unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig
- unrhyw un sy’n adnabod rhywun sydd angen cymorth, er enghraifft, ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr
- ymarferwyr sy’n gofyn am gyngor proffesiynol
Mae pob sgwrs gyda ‘Byw Heb Ofn’ yn gyfrinachol a gallwch gysylltu â’r gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar:
- ffôn testun – 0808 80 10 800
- testun – 07860077333
- e-bost – info@livefearfreehelpline.wales
- gwasanaeth sgwrsio byw
Am ragor o wybodaeth, ewch i LLYW.cymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau Cefnogi gweithwyr sydd mewn perygl o gam-drin domestig | Drupal (gov.wales)