Dethlir Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli yn flynyddol ar 5 Rhagfyr.
Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli 2024, maeUnited Nations Volunteersyn dangos ei ymrwymiad i gymunedau a lles gwirfoddolwyr y Cenhedloedd Unedig ledled y byd trwy weithgareddau gwirfoddolwyr cymunedol a gynhelir gyda phartneriaid cenedlaethol a system y Cenhedloedd Unedig.
Yn syml, nid yw'n bosibl cyflawni'r Nodau Datblygu Cynaliadwy heb gynnwys pobl ar bob cam, ar bob lefel, ac ar bob adeg.
Mae gwirfoddoli'n gwneud pobl yn rhan o'r datrysiadau. Mae gwirfoddoli’n galluogi pobl a chymunedau i gymryd rhan yn eu datblygiad eu hunain.
Mae gwirfoddolwyr yn creu diwylliant cyfoethocach o wasanaeth yn eu cymunedau. Maen nhw’n helpu i bontio'r bwlch rhwng cenedlaethau a chefnogi datblygu cynaliadwy.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: International Volunteer Day 2024
Ydych chi'n poeni y gallai cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn eich busnes bach fod yn rhy gostus? Mae hyd yn oed ychydig o oriau'r mis yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned - a gall fod manteision eraill yn y gweithle hefyd: Gweithio gyda'ch cymuned leol | Busnes Cymru (llyw.cymru)
Mae Gwirfoddoli Cymru yn cysylltu gwirfoddolwyr a sefydliadau. Mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ac mae dros fil o sefydliadau eisoes wedi manteisio ar ddechrau hysbysebu eu cyfleoedd gwirfoddoli i'r cyhoedd yng Nghymru: Croeso - Gwirfoddoli Cymru