Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.
Mae’r diwrnod hefyd yn alwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Gwelir gweithgarwch sylweddol ledled y byd wrth i grwpiau ddod ynghyd i ddathlu cyflawniadau menywod neu ymgyrchu dros degwch i fenywod.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod, a ddethlir yn flynyddol ar 8 Mawrth, yn un o ddiwrnodau pwysicaf y flwyddyn i:
- ddathlu cyflawniadau menywod
- addysgu a chodi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb i fenywod
- alw am newid cadarnhaol sy’n hybu menywod
- lobïo dros gyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau
- codi arian i elusennau sy’n canolbwyntio ar fenywod
Beth yw thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod?
Thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 yw #CofleidioCydraddoldeb. Gall pob un ohonom herio ystrydebau rhyw, herio gwahaniaethu, tynnu sylw at ragfarn, a cheisio cynhwysiant. Gweithredu cyfunol sy’n gyrru newid. O weithredu ar lawr gwlad i fomentwm ar raddfa eang, gallwn i gyd gofleidio cydraddoldeb.
P’un ai’n cynnal digwyddiad, yn rhedeg ymgyrch, yn lansio menter, yn adrodd llwyddiant, yn rhoi i elusen sy’n canolbwyntio ar fenywod, neu fwy – mae sawl ffordd y gall grwpiau ac unigolion nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddoleni ganlynol: