BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2024

female holding her hands in a heart shape

Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.

Mae’r diwrnod hefyd yn alwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Gwelir gweithgarwch sylweddol ledled y byd wrth i grwpiau ddod ynghyd i ddathlu cyflawniadau menywod neu ymgyrchu dros degwch i fenywod.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod, a ddethlir yn flynyddol ar 8 Mawrth, yn un o ddiwrnodau pwysicaf y flwyddyn i:

  • ddathlu cyflawniadau menywod
  • addysgu a chodi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb i fenywod
  • alw am newid cadarnhaol sy’n hybu menywod
  • lobïo dros gyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau
  • codi arian i elusennau sy’n canolbwyntio ar fenywod

Beth yw thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024?

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD) 2024 yw Ysbrydoli Cynhwysiant.

Pan fyddwn ni’n ysbrydoli pobl eraill i ddeall a gwerthfawrogi cynnwys menywod, rydym yn creu byd gwell.

A phan fydd menywod eu hunain yn cael eu hysbrydoli i gael eu cynnwys, ceir ymdeimlad o berthyn, perthnasedd a grymuso.

Nod ymgyrch #YsbrydoliCynhwysiant (#InspireInclusion) yw creu byd mwy cynhwysol ar gyfer menywod.

Cewch ddysgu mwy am thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024 yma: IWD: International Women's Day 2024 campaign theme: "Inspire Inclusion" (internationalwomensday.com)

P’un ai’n cynnal digwyddiad, yn rhedeg ymgyrch, yn lansio menter, yn adrodd llwyddiant, yn rhoi i elusen sy’n canolbwyntio ar fenywod, neu fwy – mae sawl ffordd y gall grwpiau ac unigolion nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddoleni ganlynol: IWD: About International Women's Day (internationalwomensday.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.