Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg ar 23 Mehefin 2024 ac mae’n hyrwyddo’r gwaith anhygoel y mae peirianwyr benywaidd yn ei wneud ar draws y byd.
Y thema eleni yw #peiriannegyncyfoethogi #enhancedbyengineering. Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg yn tynnu sylw at beirianwyr benywaidd ar draws y byd a hwythau’n dal i gael eu tangynrychioli’n aruthrol, gyda ffigurau 2021 yn nodi mai dim ond 16.5% o beirianwyr y DU sy’n fenywod.
Ydych chi eisiau cymryd rhan? Ychwanegwch eich digwyddiadau, lawrlwythwch adnoddau ac ymunwch!
Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg 2024
Mae Llywodraeth Cymru eisiau taflu goleuni ar yr ystod o fentrau sydd â'r nod o annog merched i yrfaoedd ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), megis rhaglenni ariannu sy'n canolbwyntio'n benodol ar ferched, gyda'r nod o gynyddu'r niferoedd o ysgolion uwchradd sy'n ymgysylltu â diwydiannau STEM. Mae hefyd yn ariannu'n llawn brentisiaethau gradd mewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch sy'n cyfuno dysgu yn y gweithle â chymhwyster addysg uwch: Unrhyw beth yn bosibl i fenywod mewn peirianneg yng Nghymru | LLYW.CYMRU