BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Mudwyr 2024

Health care worker checking the health of a worker

Sicrhau Mynediad at Iechyd i Fudwyr Drwy Gydol eu Taith.

Bob blwyddyn ar 18 Rhagfyr, mae'r byd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Mudwyr, diwrnod a neilltuwyd i gydnabod cyfraniad pwysig mudwyr a thynnu sylw at yr heriau sy'n eu hwynebu.

Mae mudo wastad wedi bod yn rhan hanfodol a chyfoethog o gymdeithasau, gan gyfrannu at gryfder a gwytnwch poblogaethau a meithrin economi sy'n canolbwyntio ar les i bawb. Er mwyn gwireddu'r potensial hwn, fodd bynnag, rhaid diogelu hawl mudwyr i iechyd.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Mudwyr eleni yn tynnu sylw at yr angen i sicrhau diogelwch a chyfleoedd i fudwyr trwy gefnogi eu mynediad at wasanaethau iechyd ar bob cam o'u taith.

Nid eu statws mudo yn unig sy’n diffinio mudwyr - maent hefyd yn feddygon, nyrsys, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n cyfrannu'n sylweddol at gymdeithas. Mae gan fudwyr yr hawl i iechyd ar bob cam o'u taith.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol:

Mae bod yn fusnes cyfrifol yn golygu bod o fudd i’r bobl a’r lleoedd o’ch cwmpas yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eich busnes a gallwch wneud gwahaniaeth trwy gymryd rhan yn eich cymuned leol. Am fwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Busnes cyfrifol | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.