BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl 2023

business colleagues, one colleague is a wheelchair user

Mae UN International Day of Disabled People yn ddiwrnod y Cenhedloedd Unedig sy'n cael ei ddathlu bob blwyddyn ar 3 Rhagfyr.

Mae'r diwrnod yn ymwneud â hyrwyddo hawliau a lles pobl anabl ar bob lefel o gymdeithas a datblygiad, a chodi ymwybyddiaeth o sefyllfa pobl anabl ym mhob agwedd ar fywyd gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn ymuno â'r Cenhedloedd Unedig i nodi’r diwrnod hwn bob blwyddyn, gan atgyfnerthu pwysigrwydd sicrhau hawliau pobl anabl, fel y gallant gymryd rhan yn llawn, yn gyfartal ac yn effeithiol mewn cymdeithas gyda phobl eraill, heb wynebu unrhyw rwystrau ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Mae’r Canllaw Arferion Da – Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru, a ddatblygwyd gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn darparu cyngor ymarferol i sefydliadau a chynghorwyr cymorth busnes ar y ffordd orau o gefnogi ac ymgysylltu â phobl anabl sy'n dechrau, cynnal neu dyfu eu busnes yng Nghymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.