BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol y Dynion 2023

Middle age father kissing sleeping newborn baby girl.

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn y DU ar 19 Tachwedd bob blwyddyn (dydd Sul yn 2023).  

Mae llawer o sefydliadau a phobl yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau yn ystod yr wythnos flaenorol a'r wythnos ganlynol, yn enwedig os yw'n disgyn ar benwythnos, fel eleni. Gwiriwch y calendar digwyddiadau, tudalen themau a’r dudalen syniadau.

Yn ystod mis Tachwedd, cynhelir dadleuon Seneddol, lansio polisïau, diwrnodau cyflogwyr (Perffaith ar gyfer arddangos Cydraddoldeb Amrywiaeth Cynhwysiant), digwyddiadau cymunedol, diwrnodau iechyd, digwyddiadau busnes, diwrnodau cynorthwyo staff, dadleuon, digwyddiadau myfyrwyr, digwyddiadau gwleidyddol, darlithoedd, lansio ymchwil, gigiau, diwrnodau hyrwyddo elusennau, lansio llyfrau, trafodaethau iechyd meddwl, dangosiadau ffilm, cynadleddau, cystadlaethau, nosweithiau comedi, cynulliadau, cyhoeddiadau gwobrau a digwyddiadau codi arian elusennol – y mwyaf yn unrhyw le yn y byd.

Nid oes rhaid i sefydliadau a phobl gadw at gynnal digwyddiad neu ddathliad ar 19 Tachwedd os ydynt eisiau nodi'r diwrnod. 

Y tair thema graidd ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn y DU a ddefnyddir bob blwyddyn i helpu i fwyhau cyfranogiad yw:

  • Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i les a bywydau dynion a bechgyn
  • Codi ymwybyddiaeth a/neu arian ar gyfer elusennau sy’n cefnogi lles dynion a bechgyn
  • Hyrwyddo sgwrs gadarnhaol am ddynion, bod yn ddyn a gwrywdod

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Welcome to the home of International Men's Day in the UK (ukmensday.org.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.