BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol y Dynion 2024

Grandfather and grandson sitting on a settee drinking coffee

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Dynion ar 19 Tachwedd bob blwyddyn (dydd Mawrth yn 2024).

Yn ystod mis Tachwedd, cynhelir dadleuon Seneddol, lansio polisïau, diwrnodau cyflogwyr (Perffaith ar gyfer arddangos Cydraddoldeb Amrywiaeth Cynhwysiant), digwyddiadau cymunedol, diwrnodau iechyd, digwyddiadau busnes, diwrnodau cynorthwyo staff, dadleuon, digwyddiadau myfyrwyr, digwyddiadau gwleidyddol, darlithoedd, lansio ymchwil, gigiau, diwrnodau hyrwyddo elusennau, lansio llyfrau, trafodaethau iechyd meddwl, dangosiadau ffilm, cynadleddau, cystadlaethau, nosweithiau comedi, cynulliadau, cyhoeddiadau gwobrau a digwyddiadau codi arian elusennol.

Y tair thema graidd ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn y DU a ddefnyddir bob blwyddyn i helpu i fwyhau cyfranogiad yw:

  • gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i les a bywydau dynion a bechgyn
  • codi ymwybyddiaeth a/neu arian ar gyfer elusennau sy’n cefnogi lles dynion a bechgyn
  • hyrwyddo sgwrs gadarnhaol am ddynion, bod yn ddyn a gwrywdod

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Welcome to the home of International Men's Day in the UK (ukmensday.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.