Mae tîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru yn dymuno eich gwahodd i ddigwyddiad rhad ac am ddim i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth 2023 yn Nhŷ Portland, Bae Caerdydd.
Rhoddwyd arian i bedwar o sefydliadau yng Nghymru ar gyfer cyflawni eu prosiectau unigryw yn Uganda a Lesotho er mwyn tynnu sylw at gydraddoldeb rhywiol a ffyrdd o rymuso menywod, gan weithio ar y cyd â’u partneriaid yn Affrica. Mae Hub Cymru Africa, sy’n gweithio ar draws y gymdeithas sifil gan ddwyn ynghyd elusennau, unigolion a sefydliadau o amgylch themâu sefydliadol craidd, wedi gweithio’n agos gydag arweinwyr y prosiect er mwyn esgor yn llwyddiannus ar effeithiau cynaliadwy, a bydd yn cyflwyno sylwadau treiddgar ynglŷn â pha mor bwysig yw cydnabod pwysigrwydd cydraddoldeb rhywiol o amgylch y byd.
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a fydd yn agor y digwyddiad, a bydd yn dangos pam mae grymuso menywod mor bwysig iddi hi. Yna, byddwn yn cael cyflwyniadau gan y canlynol:
- Benson Omoding – Cydgysylltydd Prosiect, Teams4U
- Janet Lowore – Rheolwr Rhaglen, Bees for Development
- Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr, Maint Cymru
- Eiriolwr, Joanna Jonas – Cyfarwyddwr, Nairasha Legal Support
Bydd modd cofrestru o 9.30am. Darperir cinio am 12.30pm, a bydd hynny’n rhoi cyfle i bawb rwydweithio, cael golwg ar yr arddangosfeydd a siarad ag aelodau’r timau.
Os hoffech fynychu, cofrestrwch erbyn 24 Chwefror 2023 gan nodi eich enw, eich sefydliad (os yn berthnasol) ac unrhyw anghenion deietegol.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 | Freshwater (eventscase.com)