BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Shwmae Su’mae 2024

Diwrnod Shwmae

Cynheli Diwrnod Shwmae Su’mae ar 15 Hydref bob blwyddyn ac yn hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi! Nôd y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu os ydych yn swil am eich Cymraeg.

Cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith – yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, gyda ffrindiau. Yn y gorffennol dathlodd ysgolion, bwytai a gorsafoedd radio.

Cofiwch dagio ni yn eich postiadau am ddigwyddiadau 2024, er mwyn i ni helpu hysbysebu a hyrwyddo! @shwmaesumae24#shwmaesumae24

Pecyn Hyrwyddo 2024: 2024-Pecyn-Hyrwyddo-Cyflawn (shwmae.cymru)

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Beth yw Diwrnod Shwmae Su’mae?

Gall defnyddio'r Gymraeg gael effaith fawr ar dy fusnes. Ac mae Helo Blod yma i roi help llaw yn rhad ac am ddim: Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.