Mae mesurau i ddiwygio'r system trethi lleol yng Nghymru, gan gynnwys ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, wedi dod yn gyfraith, gan fod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) wedi cael sêl swyddogol.
Mae'r ddeddfwriaeth newydd, a basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, yn sefydlu cyfres o newidiadau i wella'r systemau trethi. Bydd yn eu gwneud yn decach ac yn sicrhau eu bod yn gweithio'n well ar gyfer anghenion Cymru yn y dyfodol, gan sicrhau bod trethi lleol yn cyd-fynd yn fwy cyson ag amgylchiadau economaidd.
Mae wedi cyflwyno newidiadau pwysig i'r system trethi lleol ac wedi creu fframwaith ar gyfer Cymru fodern, gan ddarparu'r dulliau angenrheidiol o addasu trethi lleol yn y dyfodol, wrth i amgylchiadau a blaenoriaethau newid.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y doleni ganlynol: