BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwygio’r bysiau yng Nghymru: ein map ffordd i fasnachfreinio

Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi amlinellu'r camau nesaf ar gyfer diwygio'r bysiau yng Nghymru.

Mae ‌Ein Map Ffordd i Ddiwygio'r Bysiau yn adeiladu ar gynigion y papur gwyn ar fysiau i ad-drefnu'r ffordd y mae'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio yng Nghymru yn radical.

“Rydyn ni'n symud o system wedi’i phreifateiddio sy'n rhoi elw cyn pobl tuag at system fydd yn cynllunio bysus a threnau gyda'i gilydd o amgylch anghenion teithwyr”, meddai Lee Waters, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth.

Bydd y system bresennol lle mae gweithredwyr bysiau yn penderfynu lle i redeg gwasanaethau yn seiliedig ar le y gallant wneud y mwyaf o elw yn cael ei disodli gan system o gontractau ‘masnachfraint’.

Bydd Trafnidiaeth Cymru, cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddylunio rhwydweithiau bysiau sy'n cysylltu gwasanaethau allweddol ac yn cysylltu â bysiau eraill ac amserlenni trenau, gyda’r cyfan yn defnyddio un tocyn.

Yna bydd cwmnïau'n gallu gwneud cais i redeg y pecyn cyfan o lwybrau ar gyfer ardal, nid dim ond y rhai sydd fwyaf proffidiol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Dirprwy Weinidog yn mapio'r camau nesaf ar gyfer bysiau yng Nghymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.