BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwygio'r Dreth Gyngor

houses in autumn landscape of Betws y Coed

Helpwch ni i benderfynu ynghylch dyfodol y Dreth Gyngor yng Nghymru.

Mae llawer wedi newid ers y tro diwethaf i'r Dreth Gyngor gael ei diweddaru yng Nghymru yn 2003 ac mae'r system bellach wedi dyddio ac yn annheg. Mae rhai pobl yn talu gormod o Dreth Gyngor. Efallai na fydd rhai pobl yn talu digon, a chodir cyfran gymharol uwch o dreth ar aelwydydd sy'n byw mewn eiddo gwerth is.

Rydym yn edrych ar ffyrdd gwahanol o ddiweddaru system y Dreth Gyngor a'i gwneud yn decach. Mae hyn yn cynnwys y potensial i gyflwyno bandiau newydd i'r Dreth Gyngor.

Fel rhan o'n hymgynghoriad, hoffem glywed eich barn ar y canlynol:

  • dulliau gwahanol o gyflwyno bandiau newydd i'r Dreth Gyngor
  • diweddariadau rheolaidd i'r Dreth Gyngor yn y dyfodol
  • disgowntiau ac eithriadau
  • system fwy tryloyw a phroses apelio fwy effeithiol

Ymatebwch i'r ymgynghoriad ar ein syniadau ar gyfer Treth Gyngor decach, cyflwynwch eich sylwadau erbyn 6 Chwefror 2024. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.