Galwad am dystiolaeth i archwilio diwygio’r broses nodyn ffitrwydd i gefnogi’r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor i gael mynediad at gymorth gwaith ac iechyd yn amserol.
Bydd yr alwad hon am dystiolaeth yn llywio rhaglen waith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn natganiad yr hydref yn 2023, i archwilio diwygio’r broses nodyn ffitrwydd i gefnogi’r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor i gael mynediad at gymorth gwaith ac iechyd yn amserol. Bwriad yr alwad am dystiolaeth yw asesu effaith y broses bresennol ar gyfer y nodyn ffitrwydd o ran cefnogi sgyrsiau am waith ac iechyd ac archwilio’r gwelliannau y byddai eu hangen ar randdeiliaid fel bod y nodyn ffitrwydd yn cynnig gwell cefnogaeth i bobl ddechrau, aros a llwyddo ym myd gwaith.
Mae barn pawb yn cael ei chroesawu, yn enwedig:
- cyflogwyr
- gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
- cleifion, gofalwyr a’r rhai sy’n defnyddio nodyn ffitrwydd
- cynrychiolwyr systemau lleol neu bartneriaid systemau lleol (er enghraifft, awdurdodau lleol, byrddau gofal integredig a mentrau cymdeithasol cymunedol gwirfoddol)
- academyddion a sefydliadau rhanddeiliaid sydd â diddordeb
Gallwch ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn.
Daw’r alwad hon am dystiolaeth i ben am 11:59pm ar 8 Gorffennaf 2024.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Fit Note Reform: call for evidence - GOV.UK