BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dod â rheoliadau coronafeirws i ben yng Nghymru

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw y gall Cymru edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair, wrth i’r cyfyngiadau coronafeirws cyfreithiol olaf gael eu dileu.

Ar ôl mwy na dwy flynedd o fyw gyda rheoliadau coronafeirws, daw'r rhain i ben ddydd Llun 30 Mai 2022 pan ddaw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal i ben.

Ond bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i argymell bod pobl yn cymryd camau syml i ddiogelu eu hiechyd – gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal – wrth i Gymru symud y tu hwnt i’r ymateb argyfwng i’r pandemig.

Mae’r sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella yng Nghymru – mae canlyniadau Arolygon Heintiadau Coronafeirws diweddar yr ONS yn dangos bod y nifer o bobl sydd â COVID-19 yn lleihau.

Ond yn yr wythnos ddiwethaf, mae pedwar prif swyddog meddygol y DU wedi rhybuddio am y risg yn sgil amrywiolion newydd – BA.4 a BA.5.

Dywedodd y Prif Weinidog y bydd Cymru’n wyliadwrus o’r amrywiolion hyn ac yn barod i ddwysau’r trefniadau profi a brechu unwaith eto os yw’r sefyllfa iechyd y cyhoedd yn newid.

O ddydd Llun 30 Mai 2022, daw’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal i ben. Mae hyn yn dilyn yr adolygiad tair wythnos o’r rheoliadau coronafeirws ac yn cwblhau’r broses o lacio’r cyfyngiadau cyfreithiol yn raddol, fesul cam ers mis Ionawr.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://llyw.cymru/dod-a-rheoliadau-coronafeirws-i-ben-yng-nghymru 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.