BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dod o hyd i rywun i wneud cais am grant Gynllun Kickstart ar eich rhan

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Kickstart i greu lleoliadau gwaith newydd am gyfnod o 6 mis ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor.

Rhaid i geisiadau fod ar gyfer lleiafswm o 30 lleoliad gwaith. Os ydych chi’n creu mwy na 30 lleoliad gwaith gallwch wneud cais yn uniongyrchol drwy gyflwyno eich cais eich hun ar-lein.

Os ydych chi’n creu llai na 30 lleoliad gwaith, gall porth Kickstart weithredu ar eich rhan a gwneud cais am grant y Cynllun Kickstart yn eich lle.

Byddant yn:

  • casglu gwybodaeth gennych chi am y lleoliadau gwaith yr hoffech eu cynnig
  • defnyddio’r wybodaeth hon i gyflwyno un cais ar-lein ar ran grŵp o gyflogwyr
  • anfon y taliadau perthnasol gan DWP ymlaen atoch (er enghraifft, cyflog y person ifanc)

I weld manylion sefydliadau sy’n gallu helpu cyflogwyr yng Nghymru cliciwch yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.