BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dros £4.3 miliwn ar gyfer prosiectau cymunedol yng Nghymru

 Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros  Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Mae eglwys yn Abertawe, clwb pêl-droed yn Sir Ddinbych a chanolfan wirfoddoli ym Mhowys ymhlith y 38 prosiect i dderbyn cyfran o dros £4.3 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, cynllun grant cyfalaf, sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu sefydliadau'r sector gwirfoddol i wneud gwelliannau i gyfleusterau cymunedol fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Mae prosiectau eraill sydd hefyd wedi derbyn cyllid yn cynnwys £300,000 tuag at ddatblygu Hyb Digartrefedd ar Ynys Môn, £95,000 ar gyfer gwaith adnewyddu yng Nghlwb Pêl-droed Tref Dinbych, a £100,000 tuag at adeilad newydd yng Nghaerffili ar gyfer Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddarllen y datganiad llawn gan Lywodraeth Cymru: Dros £4.3 miliwn ar gyfer prosiectau cymunedol yng Nghymru | LLYW.CYMRU

Mae’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn agored i geisiadau ar hyn o bryd. Mae grantiau ar gael ar ddwy lefel; grantiau bach dan £25,000 a grantiau mwy o hyd at £300,000. Gellir defnyddio’r grantiau i wella cyfleusterau cymunedol sy'n ddefnyddiol i bobl yn y gymuned, ac yn cael eu defnyddio’n helaeth ganddynt. 

Mae’r Rhaglen yn agored i fudiadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Mae’r Rhaglen yn canolbwyntio ar gynyddu cyfleoedd, sicrhau ffyniant i bawb a datblygu cymunedau cadarn lle mae pobl yn cael eu cynnwys a’u grymuso. Mae disgwyl i bob ymgeisydd weithio gyda phartneriaid a all ddod o’r sector cyhoeddus, preifat neu’r trydydd sector.

I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, dewiswch y ddolen ganlynol: Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.