BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dull gofalus o ddiogelu rhag y coronafeirws i barhau

O ddydd Llun 28 Mawrth 2022, ni fydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mwyach yn ôl y gyfraith mewn lleoliadau manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er y byddant yn parhau i gael eu hargymell mewn cyngor iechyd cyhoeddus.

Bydd y gofyniad i hunanynysu hefyd yn symud i fod yn ganllawiau. Bydd taliad hunanynysu o £500 i gefnogi pobl yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin.
Fodd bynnag, bydd dau amddiffyniad cyfreithiol allweddol yn parhau ar waith gan fod achosion o'r coronafeirws wedi codi'n sydyn yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi'u hysgogi gan is-deip BA.2 o'r amrywiolyn Omicron.

Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid i fusnesau hefyd barhau i gynnal asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws, gyda mesurau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith yn sgil yr asesiadau hynny.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 14 Ebrill 2022, pan fydd y mesurau cyfreithiol sy'n weddill yn cael eu hadolygu.

Am ragor o wybodaeth ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.