BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dweud eich dweud am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae arolwg ar-lein y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi cael ei estyn i 21 Tachwedd, i sicrhau bod gan bobl ddigon o amser i roi eu hadborth gwerthfawr ar gamau gweithredu a phrosesau arfaethedig y cynllun.

Mae camau i gefnogi cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, i wella bioamrywiaeth ac i atgyfnerthu'r economi wledig yn rhan o'r cynigion sy'n amlinellu'r camau nesaf yn y gwaith o lunio cynllun blaengar Cymru ar gyfer cefnogi ffermwyr. 

Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn nodi newid sylweddol, a bydd yn hanfodol wrth helpu ffermwyr Cymru i sicrhau amgylchedd ac economi wledig fwy cadarn.

Rhoddir cymorth ariannol i ffermwyr am y gwaith maen nhw'n ei wneud i ymdrin â heriau'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, wrth iddyn nhw gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy.

Mae creu system newydd ar gyfer cefnogi ffermwyr a fydd yn cynyddu pŵer amddiffynnol natur cymaint ag y bo modd drwy ffermio, gan gydnabod anghenion penodol ffermydd teulu Cymru, a chydnabod bwyd sy'n cael ei gynhyrchu mewn modd ecolegol gynaliadwy, yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Arolwg Rownd 2 Cydgynllunio'r SFS (qualtrics.com)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.