BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru

Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn estyn gwahoddiad i chi ymuno â sgwrs genedlaethol ynglŷn â’r ffordd y caiff Cymru ei rhedeg.

Mae ein tasg yn cynnwys edrych ar y trefniadau presennol, pwy sydd â’r pŵer dros beth, y rheolau cyfredol ar sut caiff Cymru ei rhedeg, ac os mai dyma’r ffyrdd gorau o drefnu pethau, gan gynnwys:

  • pwy sy’n gwneud y penderfyniadau gwleidyddol sy’n effeithio ar bobl Cymru, a sut y caiff y penderfyniadau hynny eu gwneud
  • ar ba agweddau o’n bywyd cenedlaethol y dylai Cymru lunio rheolau a gwneud penderfyniadau drosti hi ei hun?

Rydym yn awyddus i glywed gan gynifer â phosibl o bobl, o bob rhan o gymdeithas a phob cymuned ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig i chi, a’ch gobeithion am ddyfodol Cymru.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 31 Gorffennaf 2022.

Am ragor o wybodaeth ewch i Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.