Mae dod yn ôl i'r gwaith ar ôl amser i ffwrdd yn ystod y pandemig yn gallu bod yn anodd i rai pobl.
Os yw gweithwyr wedi bod i ffwrdd o'r busnes am gyfnodau hir, efallai y bydd eu gallu neu eu sgiliau wedi dirywio.
Efallai y bydd angen amser a chymorth ychwanegol arnyn nhw i ddechrau perfformio fel roedden nhw cyn y pandemig eto.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau ar ddychwelyd i'r gwaith sy'n gallu eich helpu i siarad â'ch gweithwyr a darparu'r cymorth cywir.
Mae'n cynnwys:
- Pwy ddylai fynd i'r gwaith?
- Dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfyngiadau symud neu ar ôl cau am resymau eraill.
- Sut gallwch chi helpu'ch gweithwyr os ydyn nhw'n poeni am ddychwelyd i'r gwaith.
- Cwestiynau i'ch helpu i siarad am weithio gartref neu ddychwelyd i'r gwaith.
Mae rhagor o wybodaeth am gadw'ch gweithle'n ddiogel wrth i gyfyngiadau'r coronafeirws gael eu llacio ar wefan HSE, ac mae canllawiau pellach ar gael yn Llyw.Cymru.