BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth – cymerwch ran!

Mae Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2022 yn gyfle i arddangos Cymru i’r byd.

Cymerwch gip ar y pecyn i gael gwybodaeth am ymgyrch Croeso Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, Pethau Bychain – Random Acts of Welshness, a sut gallwch chi gymryd rhan: Pethau Bychain – Pecyn Gwybodaeth. 

A fyddech cystal â rhannu’r pecyn gwybodaeth â’ch rhanddeiliaid – gallai’r rhain gynnwys busnesau, grwpiau neu sefydliadau yng Nghymru a gweddill y byd a all helpu i ehangu ein cynnwys a chymryd rhan.

Mae asedau i’w defnyddio ar draws eich cyfryngau cymdeithasol ar gael ym Mhecyn Adnoddau Gŵyl Ddewi; ymunwch drwy ddefnyddio  #RandomActsofWelshness a #PethauBychain

#CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste y Dydd y Gŵyl Dewi hwn – Mawrth 1af 2022
 
Bydd yr ymgyrch digidol ar draws y diwydiant - #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste - yn dychwelyd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2022! Yr ymgyrch hwn fydd y mwyaf eto I annog siopwyr o Gymru a Phrydain Fawr I ddathlu gyda Bwyd a Diod o Gymru ar ein diwrnod cenedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i #CaruCymruCaruBlas | Business Wales - Food and drink (gov.wales)

Ewch i dudalennau Twristiaeth Busnes Cymru waeth a ydych chi’n ystyried dechrau busnes twristiaeth newydd, wedi cymryd y camau cyntaf eisoes neu am dyfu’ch busnes cyfredol. 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.